Help a chymorth
Cwestiynau Cyffredin
Oes angen i mi fewngofnodi ar QiW i chwilio?
Nac oes. Gallwch chwilio, a lawrlwytho ac argraffu canlyniadau heb fewngofnodi.
Oes angen i mi allu mewngofnodi?
Dim ond staff Cymwysterau Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyrff Dyfarnu sydd am gyflwyno cymwysterau i QiW sy'n defnyddio'r cyfleuster mewngofnodi.
Sut rydw i'n chwilio am gymwysterau ar QiW?
Ar y dudalen hafan, gallwch naill ai glicio ar "Chwilio" yn y rhuban uchaf neu glicio ar y botwm 'Chwilio'. Mae hyn yn mynd â chi i'r sgrin "Chwilio Sylfaenol". Yma, gallwch roi manylion yn unrhyw un o'r wyth maes a ddangosir er mwyn canfod cymwysterau.
Os hoffech chwilio am rywbeth yn fwy penodol, gallwch glicio ar "Uwch" a bydd rhagor o opsiynau chwilio i'w gweld. Yma, gallwch chwilio yn ôl dyddiadau cymwysterau, dewisiadau Cyn ac Ar Ôl 16 oed a meini prawf eraill sy'n fwy manwl.
Drwy glicio ar "Dewis meysydd" gallwch ddewis pa feysydd yr hoffech eu gweld yn eich canlyniadau chwilio. Os na fyddwch yn dewis unrhyw feysydd, bydd y dangosydd rhagosodedig yn cynnwys:
- Rhif Cymeradwyo/Dynodi Cymwysterau Cymru
- Rhif y Cymhwyster
- Corff Dyfarnu
- Teitl y Cymhwyster
- Math o Gymhwyster
- Lefel y Cymhwyster
- Iaith
- Statws
Gellir gweld rhagor o fideos tiwtorial sy’n egluro sut i ddefnyddio QiW ar y dudalen we Beth yw QiW?
A allaf dalfyrru term?
Gallwch chwilio QiW gan ddefnyddio termau wedi'u talfyrru. Er enghraifft, os byddwch yn teipio "Cym" ar y sgrin "Chwilio am Gymwysterau", bydd y canlyniadau chwilio yn cynnwys cymwysterau â "Cymraeg" yn y teitl.
A allaf gymharu gwybodaeth am gymwysterau?
Gallwch. Os ydych yn gwybod rhifau Cymeradwyo/Dynodi Cymwysterau Cymru neu Rifau Cymwysterau nifer o gymwysterau rydych yn dymuno eu cymharu, gallwch eu nodi yn y maes perthnasol ar y dudalen chwilio - gyda bwlch rhyngddynt. Wedyn, gallwch ddewis pa feysydd yr hoffech eu gweld e.e. Dewis Cyn 16 oed. Pan fyddwch yn clicio ar "Chwilio", caiff y cymwysterau roeddech am eu gweld eu harddangos ynghyd â'r meysydd roeddech yn awyddus i'w cymharu.
A allaf chwilio yn Gymraeg?
Gallwch. Mae QiW yn gwbl ddwyieithog. Mae angen i ddefnyddwyr gymryd gofal - er y gallwch ganfod cymhwyster drwy chwilio yn Gymraeg, efallai mai dim ond yn Saesneg y gellir ei addysgu. Gallwch nodi dewisiadau iaith y cymhwyster drwy edrych ar y maes 'Iaith'.
A allaf gadw fy chwiliadau?
Gallwch. Unwaith y byddwch wedi nodi eich meini prawf, dewis y meysydd yr hoffech eu gweld a chlicio ar "Chwilio", gallwch naill ai ddefnyddio nod tudalen/ffolder ffefrynnau neu gopïo'r URL. Bob tro y byddwch yn clicio ar dudalen sydd wedi'i chadw, neu'n rhoi'r URL yn eich porwr, cewch weld y wybodaeth ddiweddaraf sydd wedi'i chadw ar QiW.
Sut mae addasu fy meini prawf chwilio?
Ar y dudalen Canlyniadau Chwilio, bydd rhestr o'r meini prawf a nodwyd gennych a thabl o'r canlyniadau. Os byddwch angen addasu eich meini prawf chwilio, cliciwch ar y botwm "Addasu meini prawf" a byddwch yn dychwelyd at eich canlyniadau chwilio.
Ni allaf weld y cymhwyster rwy'n chwilio amdano.
Gall fod sawl rheswm am hyn:
1. Efallai nad yw Cymwysterau Cymru wedi gorffen adolygu'r cymhwyster yn llawn eto.
2. Efallai bod Cymwysterau Cymru wedi gwrthod y cymhwyster.
3. Efallai bod y cymhwyster wedi'i archifo, gan nad yw'n cael ei addysgu mwyach.
Cysylltwch â ni ar approvalanddesignation@qualifications.wales gan ddyfynnu rhif y cymhwyster a/neu'r teitl llawn am gymorth pellach
Hoffwn weld rhagor o fanylion am gymhwyster penodol.
Unwaith y byddwch wedi chwilio ac wedi nodi cofnodion y cymhwyster yr hoffech ddysgu mwy amdano, gallwch glicio ar y botwm "gweld" ar ochr dde'r cofnod. Wedyn, bydd modd i chi weld y cymhwyster yn fanwl.
Os hoffech weld gwybodaeth bellach, megis data unedau, gallwch glicio ar y ddolen mae'r Corff Dyfarnu wedi'i darparu i'w wefan ei hun ar y sgrin "Gweld Cymhwyster".
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng "Rhif Cymeradwyo/Dynodi Cymwysterau Cymru" a "Rhif y Cymhwyster"?
Caiff 'Rhif Cymeradwyo/Dynodi Cymwysterau Cymru'' ei bennu ar gyfer pob cymhwyster a gyflwynir i QiW. Os caiff cymhwyster ei gyflwyno i QiW i’w ddefnyddio yng Nghymru, ond ei fod hefyd ar gael yn Lloegr, bydd ganddo 'Rif Cymhwyster' (a gaiff ei gynhyrchu gan y Porth). Rydym wedi cynnwys y ddau rif yn ein system er mwyn helpu defnyddwyr i ganfod cymwysterau.
Ni allaf ganfod y mesurau perfformiad ar gyfer cymhwyster.
Os hoffech weld y mesurau perfformiad ar gyfer cymhwyster, bydd angen i chi glicio ar y botwm "Data Llywodraeth Cymru" ar frig ochr dde'r dudalen "Gweld y Cymhwyster".
Caiff y wybodaeth hon ei rheoli gan Lywodraeth Cymru. Os bydd unrhyw ymholiadau eraill gennych, bydd angen i chi gysylltu â IMS@gov.wales yn uniongyrchol.
Ni allaf weld a yw cymhwyster yn cyfrif fel dewis
Os hoffech weld y data o ran dewisiadau Cyn ac Ar Ôl 16 oed, bydd angen i chi glicio ar y botwm "Data Llywodraeth Cymru" ar frig ochr dde'r dudalen "Gweld y Cymhwyster".
Caiff y wybodaeth hon ei rheoli gan Lywodraeth Cymru. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau pellach, bydd angen i chi gysylltu â 14-19@gov.wales yn uniongyrchol.
Ni allaf weld a yw cymhwyster yn cyfrif fel un Cyffredinol neu Alwedigaethol.
Os hoffech weld y Categori Cynllunio Cwricwlwm ar gyfer y cymhwyster, bydd angen i chi glicio ar y botwm "Data Llywodraeth Cymru" ar frig ochr dde'r dudalen "Gweld y Cymhwyster".
Caiff y wybodaeth hon ei rheoli gan Lywodraeth Cymru. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau pellach, bydd angen i chi gysylltu â 14-19@gov.wales yn uniongyrchol.
Sut y caiff codau diystyru eu defnyddio wrth gyfrifo gwybodaeth am berfformiad ysgolion uwchradd?
Os bydd disgybl yn astudio mwy nag un cymhwyster gyda'r un Cod Diystyru, ni chaiff y cymhwyster â'r gradd is ei gyfrif at ddibenion perfformiad ysgol.
Sut ydw I'n allforio fy nghanlyniadau chwilio?
Mae botwm "Allforio" ar y dudalen Canlyniadau Chwilio, o dan y rhestr o gymwysterau a ganfuwyd. Cliciwch ar hwn a gallwch ddewis naill ai agor neu gadw'r canlyniadau. Dewiswch "Agor" a chaiff y canlyniadau eu dangos ar ffurf taenlen .csv.
Sut ydw I'n cadw fy nghanlyniadau chwilio?
Mae botwm "Allforio" ar y dudalen Canlyniadau Chwilio, o dan y rhestr o gymwysterau a ganfuwyd. Cliciwch ar hwn a gallwch ddewis naill ai agor neu gadw'r canlyniadau. Dewiswch "Cadw" a gallwch gadw'r canlyniadau ar ffurf taenlen mewn ffeil ar eich cyfrifiadur.
Sut rydw i'n creu cymhwyster yn QiW?
Gall Cyrff Dyfarnu fewngofnodi i QiW a chlicio ar "Creu", er mwyn mynd i ffurflen gais lle gallant greu cymwysterau i'w hadolygu.
Gellir gweld arweiniad ynghylch creu cymwysterau yn QiW a’r broses Cymeradwyo/Dynodi ar y dudalen we Beth yw QiW?
Faint o amser y bydd ei angen i ddynodi fy nghymhwyster?
Cyn belled â bod Cyrff Dyfarnu yn darparu digon o dystiolaeth, bydd penderfyniad dynodi’n cael ei gymryd o fewn 15 diwrnod gwaith o wneud cais.
Sut rydw i’n gofyn am enw defnyddiwr a chyfrinair er mwyn mynd i mewn i QiW?
Os hoffech ofyn am enw defnyddiwr a chyfrinair QiW, cysylltwch â ni.
Rwyf wedi cloi fy hunan allan o QiW, sut rydw i’n ailosod fy nghyfrinair?
Os ydych yn cloi eich hun allan o QiW ni fydd y system yn gadael i chi ail-ymgais i fewngofnodi am gyfnod byr o amser. Rydym yn argymell i chi aros ychydig funudau cyn ceisio fewngofnodi eto.
Os na allwch fewngofnodi eto, gallwch ofyn am ailosod cyfrinair trwy gysylltu â ni.
Sut rydw i’n ailosod fy ngyfrinair?
Gallwch wneud cais am ailosod cyfrinair trwy gysylltu â ni.
Beth yw diffiniad cymwysterau cyfrwng Cymraeg?
https://cymwysterau.cymru/media/dj1brp3n/20210825-regulatory-welsh-medium-qualifications-policy-cymraeg.pdf
Cymwysterau cyfrwng Cymraeg yw'r rhai lle mae'n rhaid i unrhyw asesiad sydd i'w gwblhau gan ddysgwr fod ar gael iddyn nhw yn Gymraeg. Mae hyn yn golygu pob rhan o'r asesiad, fel unedau neu gydrannau, ac ym mha bynnag fformat, boed yn bapur neu'n ddigidol.
Rydym ni’n cydnabod bod rhai cyrff dyfarnu yn cynnig darpariaeth rhannol Gymraeg fel rhan o'u taith i gynyddu eu darpariaeth. Lle mae un neu fwy o unedau/cydrannau cymhwyster ar gael i'w cwblhau gan y dysgwr yn Gymraeg ond nid pob un, nid yw'r cymwysterau hyn wedi'u diffinio fel cyfrwng Cymraeg ac ni ddylid eu labelu felly. Gellir disgrifio'r cymwysterau hyn ‘yn rhannol’ yn Gymraeg ar QiW ac mewn deunyddiau marchnata’r corff dyfarnu fel rhai sydd ar gael yn rhannol yn Gymraeg.
Mae cymwysterau sydd wedi'u labelu ar gronfa ddata QiW fel cyfrwng Cymraeg yn golygu bod yr holl unedau neu gydrannau ar gael i'w cwblhau yn Gymraeg gan y dysgwr. Er mwyn i gymhwyster fod yn un cyfrwng Cymraeg, y canlynol yw'r lleiafswm y mae'n rhaid ei fod ar gael yn Gymraeg:
- Yr holl ddeunyddiau asesu, boed yn arholiad neu fath arall o bapur, ar y sgrin, neu gwestiynau digidol i'w cwblhau gan y dysgwr;
- Y fanyleb ar gyfer y cymhwyster, gan gynnwys unrhyw derminoleg berthnasol sy'n ofynnol ar gyfer y cymhwyster;
- Deunyddiau Asesu enghreifftiol, lle bo hynny'n berthnasol; ac
- Unrhyw ddeunyddiau eraill sy'n cael eu gwneud yn orfodol gan y corff dyfarnu i'r dysgwr gael cyfle i ennill y cymhwyster.
Pan fo cymhwyster yn un cyfrwng Cymraeg, nid yw hyn yn atal y cymhwyster rhag bod ar gael yn Saesneg hefyd. Pan fydd cyrff dyfarnu ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg, gall dysgwyr ddewis cwblhau rhai neu bob un o gydrannau'r cymhwyster naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Mae canolfannau sy'n dysgu'n ddwyieithog - yn Gymraeg ac yn Saesneg - ac efallai y bydd dysgwyr yn dewis cwblhau eu hasesiadau yn ddwyieithog h.y. rhai cydrannau o'r cymhwyster yn Gymraeg ac eraill yn Saesneg. Dewis y dysgwr/dewis iaith yw hwn ac mae'n wahanol i'r corff dyfarnu yn sicrhau bod ei holl asesiadau ar gael yn Gymraeg y gall y dysgwr ddewis ohonynt.
Beth yw'r Dyddiad Dechrau Dynodi/Cymeradwyo newydd?
Y Dyddiad Dechrau Dynodi/Cymeradwyo yw dechrau’r cyfnod dynodi neu gymeradwyo a’r dyddiad cyntaf y gall dysgwr ddechrau cwrs sy’n arwain at gymhwyster sy’n gymwys i’w ddefnyddio ar raglenni dysgu a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer dysgwyr o dan 19 oed.
Beth yw'r Dyddiad Dechrau Dynodi/ Cymeradwyo Hwyraf Sydd y Mwyaf Tebygo?
Mae’r Dyddiad Dechrau Dynodi/ Cymeradwyo Hwyraf Sydd y Mwyaf Tebygo yn disodli’r Dyddiad Gorffen Gweithredol a dyma’r dyddiad olaf y gall dysgwr ddechrau cwrs sy’n arwain at gymhwyster sy’n gymwys i’w ddefnyddio ar raglenni dysgu a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer dysgwyr o dan 19 oed, yn seiliedig ar fodel cyflenwi tebygo.
Beth yw’r Dyddiad Gorffen Ardystio Dynodi/Cymeradwyo newydd?
Mae Dyddiad Gorffen Ardystio Dynodi/Cymeradwyo yn disodli’r Dyddiad Gorffen Ardysti (CED) a dyma ddiwedd y cyfnod dynodi neu gymeradwyo. Dyma hefyd y dyddiad olaf y gall dysgwr gael ei ardystio am gymhwyster sy’n gymwys i’w ddefnyddio ar raglenni dysgu a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer dysgwyr dan 19 oed; mae hyn yn cynnwys ailsefyll.
Beth yw'r Cyfnod Dynodi/Cymeradwyo newydd?
Y Cyfnod Dynodi/Cymeradwyo yw'r amser rhwng Dyddiad Dechrau’r Dynodiad/Cymeradwyaeth a’r Dyddiad Gorffen Ardystio Dynodi/Cymeradwyo pan fydd y cymhwyster wedi'i ddynodi neu ei gymeradwyo gan Cymwysterau Cymru.
Beth yw'r Dyddiad Gorffen Rheoleiddio newydd?
Y dyddiad Gorffen Rheoleiddio yw’r dyddiad olaf y bydd Cymwysterau Cymru yn rheoleiddio'r cymhwyster.
Cwestiynau Cyffredin gan Ganolfannau
Oes angen manylion mewngofnodi er mwyn chwilio am gymwysterau yn QiW?
Nac oes. Nid oes angen manylion mewngofnodi QiW ar ganolfannau i allu defnyddio QiW. Gall unrhyw un gael mynediad i QiW ar-lein er mwyn gweld ac allgludo gwybodaeth am gymhwyster.
Pwy sy’n gyfrifol am addasu cymwysterau yn QiW?
Er mai Cymwysterau Cymru sy’n gyfrifol am reoli QiW a’i gynnwys, cyfrifoldeb y cyrff dyfarnu yw uwchlwytho a chynnal eu data cymhwyster yn QiW. Os oes gennych chi ddysgwyr sydd eisiau cymryd cymhwyster sydd wedi pasio ei Ddyddiad Terfynu Ardystiad neu Ddyddiad Terfynu Gweithrediadol ac/neu rydych chi’n pryderu nad yw manylion y cymhwyster ar gofrestr Ofqual yn gyson yn QiW, cysylltwch â’r corff dyfarnu perthnasol gyda’ch ymholiad.
Mae rhestr o’n Cyrff Dyfarnu ar gael YMA
Gyda pwy y dylwn siarad am gymhwyster sydd ar gael ar gofrestr Ofqual ond ddim ar QiW?
Os yw manylion cymhwyster yn wahanol ar gofrestr Ofqual a QiW, cysylltwch â’r corff dyfarnu perthnasol gyda’ch ymholiad.
Mae rhestr o’n Cyrff Dyfarnu ar gael YMA
Ble mae dod o hyd i restr o gysylltiadau ar gyfer corff dyfarnu?
Mae rhestr o Gyrff Dyfarnu ar gael yn: YMA
Sut mae defnyddio QiW i ddod o hyd i wybodaeth am gymwysterau sy’n berthnasol i fy nghanolfan a’i hallgludo?
Gall Defnyddwyr QiW sefydlu tudalen Ffefrynnau ar QiW. Mae gwybodaeth am sut i ddefnyddio’r nodwedd ffefrynnau ar gael YMA
Ble mae dod o hyd i wybodaeth ar fesurau perfformiad, pwyntiau/pwyntiau wedi eu capio a chyfwerthedd? (tudalen yn QiW/e-bost LlC)
Mae gwybodaeth am berfformiad ar gael drwy gyrchu’r cymhwyster perthnasol ac yna clicio ar y botwm ‘Gwybodaeth ar y Cwricwlwm a Chyflawniad’ ar ochr dde’r gornel uchaf.
Noder y caiff gwybodaeth am fesurau perfformiad, cyfwerthedd, codau disgownt a phwyntiau wedi eu capio ei phennu a’i chynnal gan Lywodraeth Cymru.
Os oes gennych chi ymholiad sy’n ymwneud â’r wybodaeth hon, cysylltwch â Llywodraeth Cymru ar: IMS@gov.wales
Beth yw Cymwysterau 'Rheoleiddiedig Eraill'?
Cymwysterau rheoleiddiedig eraill yw'r holl gymwysterau eraill a gynigir gan gyrff dyfarnu cydnabyddedig i ddysgwyr yng Nghymru nad ydynt wedi optio allan o'n cwmpas cydnabyddiaeth. Mae cymwysterau Rheoleiddiedig Eraill yn gymwysterau a reoleiddir, ond, nid ydynt yn gymwys i'w defnyddio ar raglenni dysgu a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer dysgwyr o dan 19 oed ac nid ydynt yn denu Pwyntiau Perfformiad Llywodraeth Cymru.
Beth sy'n digwydd i Bwyntiau Perfformiad pan fydd Cymhwyster Dynodedig yn bodloni Dyddiad Gorffen yr Ardystiad?
Pan fo cymhwyster wedi'i ddynodi'n flaenorol a bod y cymhwysedd i'w ddefnyddio ar raglenni dysgu a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer dysgwyr o dan 19 oed wedi dod i ben (bod Dyddiad Gorffen yr Ardystiad wedi’i fodloni), bydd y cymwysterau hyn yn troi’r cymwysterau Rheoleiddiedig Eraill. Lle bo hynny'n berthnasol, bydd Gwybodaeth hanesyddol am Berfformiad a Chwricwlwm ar gael o hyd ar gyfer y cymwysterau hyn drwy fotwm Gwybodaeth am Berfformiad a Chwricwlwm coch Llywodraeth Cymru ar QiW.
Ble alla i gael rhestr lawn o gymwysterau sy'n gymwys i'w defnyddio ar raglenni dysgu a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer dysgwyr o dan 19 oed?
Bydd yr Hafan yn caniatáu i ddefnyddwyr gyrchu rhestr lawn o gymwysterau sy'n gymwys i'w defnyddio ar raglenni dysgu a ariennir yn gyhoeddus ar gyfer dysgwyr o dan 19 oed. Gellir cyflawni hyn gan ddefnyddio'r swyddogaeth chwilio a dewis meini prawf drwy chwiliad uwch neu ddefnyddio'r botymau allforio. Bydd y botymau allforio yn caniatáu i ffeiliau CSV gael eu lawrlwytho. Yna gellir defnyddio hidlyddion i fodloni eich gofynion chwilio penodol.
Ble alla i gael rhestr lawn o gymwysterau rheoleiddiedig?
O 30 Hydref 2020, bydd holl ddefnyddwyr cronfa ddata QiW yn gallu gweld, chwilio ac allforio’r holl gymwysterau yr ydym yn eu rheoleiddio. Bydd hwn ar gael o Hafan QiW lle bydd defnyddwyr yn gallu dewis eu meini prawf a dewis chwilio am Gymwysterau Dynodedig, Cymeradwy a/neu Gymwysterau Rheoleiddiedig Eraill.
Canllawiau pellach
Mae canllawiau a mwy o adnoddau ar gael yma .
Rhestr Termau
Mae rhestr termau ar gael yma .